Penwythnos Llangrannog / Llangrannog Weekend
Aeth 11 o blant am benwythnos i Wersyll yr Urdd Llangrannog. Mwynhaeodd pawb yn fawr iawn
Newyddion/ News
Aeth 11 o blant am benwythnos i Wersyll yr Urdd Llangrannog. Mwynhaeodd pawb yn fawr iawn
Diolch i Criced Cymru am ddod i'r ysgol i roi sesiwn blasu criced i flynyddoedd 1, 2 a 3.
Diolch i Donald o Blodau'r Bedol am ddysgu ni sut i drefnu blodau. Rhanwyd y gosodiadau rhwng cartrefi Min y Mor, Penrodyn a Mrs Thomas
Aeth 31 o blant i gynrychioli'r ysgol yng nghystadleuaeth trawsgwlad Ceredigion yr Urdd. Rhedodd pawb fel y gwynt! Y plant ddaeth yn y 10 cntaf oedd.
Bechgyn Blwyddyn 6 - Finl;ay 1af, Steffan 5ed, Ethan 7fed a Rhys 8fed.
Merched Blwyddyn 6 - Seren 2il
Merched Blwyddyn 5 - Martha 1af
Bechgyn Blwyddyn 3 - Ellis 2il
Merched Blwyddyn 3 - Mia 9fed.
Llongyfarchiadau enfawr i fechgyn yr ysgol a lwyddod i ennill cystadleuaeth pel droed 7 bob ochr yr Urdd yn Aberystwyth. Llongyfarchiadau mawr hefyd i'r merched a lwyddodd i ddod yn ail yn y gystadleuaeth.
Trannoeth tro y Cyfnod Sylfaen, ac eto cafwyd diwrnod llawn o gystadlu yn y Neuadd. Enillwyd y tlws Llên gan Sadie Gibbs a’r tlws Celf gan Patryk Chrostowski.
Beirniadwyd gan Enid Jones a Carys Roberts.
Yn ystod wythnos ola’r tymor cynhaliwyd Eisteddfodau’r Ysgol. Cipiwyd y prif dlysau yn Eisteddfod C.A.2 gan y canlynol, Celf– Tanwen Shaw, Y Goron—Mari Raw-Rees a’r Gadair– Catrin Edwards. Cafwyd cystadlu brwd a diolch yn fawr I’r ddau feirniad, sef Iestyn Morgan a Siôn Evans am eu gwaith caled. Ar ddiwedd y dydd Pentwr oedd y tim buddugol.
Diolch i Gary a Liz am ddod a pedair tylluan i ddangos i ni. Roedd e’n diddorol iawn i weld ac i glywed am y gwahanol dylluanod. Mwynhaeodd y plant a’r athrawon yn fawr.
Aeth disgyblion blwyddyn 3 a 4 i Ysgol Bro Siôn Cwilt i ddathlu Gemau’r Gymanwlad a ‘Sport Relief’ yng Ngwyl Chwaraeon Cylch Aeron a oedd wedi ei threfnu gan Ceredigion Actif. Cafwyd gyfle i brofi amrywiaeth o wahanol chwaraeon ac yna cerdded 1 milltir i godi arian i ‘Sport Relief’.
Daeth Rotari Aberaeron i'r ysgol i blannu coed gyda holl ddisgyblion y dosbarth Derbyn.
Llongyfarchiadau i Finlay, Seren, Steffan a Martha a aeth i gynrychioli Dyfed yn erbyn Morganwg yn Abertawe. Daeth Finlay Tarling yn 3ydd, Seren Davies yn 10fed, Steffan Hopkins yn 14fed a Martha Brandy-Phillips yn 15fed.
PENCAMPWYR TRAWSGWLAD DYFED
Aeth dros 60 o blant i gynrychioli’r ysgol. Llwyddwyd i ddod yn ail ysgol orau dros Ddyfed — camp wych o ystyried fod 90 o ysgolion a dros 1,400 o blant yn cystadlu!
Medalwyr unigol: Martha: 1af, Seren: 6ed, Finlay: 2il
Medalwyr tîm : Bechgyn Bl.3—Ellis, Sonny, Jack P.—3ydd
Merched Bl.5—Martha, Chloe, Jasmine W —2il
Merched Bl.6—Seren, Mari, Bethany—2il
Bechgyn Bl.6—Finlay, Zeké, Steffan—1af
Aeth Martha, Steffan, Finlay a Seren ymlaen i gynrychioli Dyfed yn erbyn Morgannwg pryd yr enillodd Finlay y 3ydd wobr! Llongyfarchiadau i chi gyd.