Skip to content ↓

Ysgol Gynradd

Aberaeron

Yn yr adran hon...

Newyddion/ News

Newyddion/ News

Page 1

  • Dydd Gwyl Dewi / St David's Day

    Published 05/03/24

    Braf oedd gweld cymaint o’n disgyblion wedi gwisgo eu dillad  traddodiadol Cymreig i’r ysgol. Cynhaliwyd ein gorymdaith Gŵyl Dewi o gwmpas Aberaeron a braf oedd gweld cymaint o bobl allan ar y stryd eleni eto. Cynhaliwyd Gymanfa Ganu yng nghapel Tabernacl yng ngofal Dafydd Pantrod a aelodau Siarter Iaith yr ysgol

    Read More
  • Eisteddfod Cylch Aeron / Aeron Cluster Eisteddfod

    Published 05/03/24

    Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd rhan yn eisteddfod cylch Aeron yn ddiweddar. Braf oedd gweld cymaint o’r ysgol yn cystadlu.

    Canlyniadau’r dydd

    Unawd bl.2 ac iau— 2il Tirion Thomas

    Llefaru bl.2 ac iau – 2il Ela Freeman

    Llefaru Dysgwyr bl.3 a 4 – 1af Patrick Sellen

    Unawd Cerdd Dant bl.2 ac iau – Betty Davies

    Llefaru bl.3 a 4 – 1af Nanw Griffiths-Jones

    Unawd bl.3 a 4 – 2il Nanw Griffiths-Jones

                             3ydd Alaw Freeman

    Unawd bl.5 a 6 – 3ydd Alys James

    Unawd Cerdd Dant bl.3 a 4 – 1af Nanw Griffiths-Jones

    Unwad Alaw Werin bl.6 ac iau – 1af Nanw Griffiths-Jones

    Deuawd – 3ydd - Harri Hughes a Nanw Griffiths-Jones

    Deuawd Cerdd Dant - 1af – Alaw Freeman a Nanw Griffiths-Jones

    Parti Unsain – 2il     Parti Cerdd Dant – 1af     

    Perfformiad Theatrig o Sgript – 2il

    Read More
  • Arad Goch

    Published 27/02/24

    Cafodd ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 y cyfle i fwynhau perfformaid o’r ddrama ‘Cymrix’. A’r ôl y sioe cafwyd weithdau diddorol.

    Read More
  • Loncian i Landdwyn

    Published 27/02/24

    A’r Noson Santes Dwynwen casglodd tyrfa fawr yng Nghae Sgwâr Aberaeron i weld penllanw deuddeg diwrnod o weithgareddau sydd wedi bod yn destun siarad trwy’r dre! Fe osododd plant Dysgu Sylfaen yr ysgol her i’w hunain i ‘Loncian i Landdwyn’ ar y diwrnod arbennig hwn. Cyfanswm y milltiroedd oedd angen eu cyflawni oedd 113, sef y milltiroedd o Aberaeron i Ynys Llanddwyn. Tipyn o her! Erbyn 4.30yp roedd y lle yn llawn bwrlwm gyda’r cae wedi’i oleuo a miwsig yn atsain trwy’r dre! Gosodwyd trac ar ffurf calon yng nghanol y cae ac mi oedd yn olygfa arbennig i weld hyd yn oed plant y dosbarth meithrin yn ymdrechu’n galed i gwblhau’r her gyda chefnogaeth eu rhieni, teuluoedd a’u hathrawon. Dros y deuddeg diwrnod cyn hynny fe ryddhawyd fideos yn ddyddiol ar gyfryngau cymdeithasol yr ysgol ac ar dudalen Facebook ‘Straeon Aberaeron’ a oedd yn hyrwyddo’r digwyddiad yn defnyddio unigolion o’r gymuned. Gwelwyd amrywiaeth o unigolion o’r ficer i’r cynghorydd lleol a’r maer ynghyd â llawer o bobl fusnes y dref yn gwneud campau digon rhyfedd a ddenodd ddiddordeb anhygoel gan y cyhoedd. Mae’n werth chi gael golwg arnynt! Dyma beth oedd digwyddiad a unodd y gymuned gyfan gan godi arian at yr ysgol a chreu brwdfrydedd a hwyl yng nghanol mis Ionawr digon diflas. Diolch i Bwyllgor Gwelliannau Aberaeron am eu cymorth a’r Clwb Pêl-droed am fenthyg y llifoleuadau.

    Read More
  • Gwyl Offerynnol yr Urdd / Urdd Instrumental Festival

    Published 27/02/24

    Llongyfarchiadau i Eva Berkshire a Charlie Vince am eu ymdrech arbennig yng Ngŵyl Offerynnol yr Urdd yn ddiweddar. Llwyddodd Charlie i ddod yn 3ydd yn yr unawd chwythbrennau.

    Read More
  • Canu Gyda'n Gilydd / Sing Together

    Published 27/02/24

    Ymunodd y rhan helaeth o flwyddyn 6 a ysgolion eraill Ceredigion i recordio cân wedi ei chyfansoddi gan Rhys Taylor a Lorraine King yn Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau. Y nôd yw bod 45,000 o blant ar draws Cymru yn canu’r gân a fydd yn cael eu ryddhau a’r gyfer Dydd Gwyl Dewi ynghyd a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru. Cyfle cyfforus i’r plant. Diolch yn fawr iawn i Wasanaeth Cerdd Ceredigion am gydweithio gyda ABC i wneud hyn yn bosib.

    Read More
  • Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Ddiogel / Internet Safety Day

    Published 27/02/24

    I nodi’r diwrnod pwysig yma, cafwyd wasanaeth arbenning yng ngofal Llysgenhadon Digidol yr ysgol.Cynhaliwyd gweithgareddau amrywiol yn y dosbarthiadau. Bu blynyddoedd 2, 3 a 4 yn creu posteri e-ddiogelwch. Trafodwyd ac ymwchiliodd blwyddyn 5 mewn i beth bydd technoleg fel mewn 20 mlynedd. Crewyd gyflwyniadau gan ddisgyblion blwyddyn 6 a’r ddiogelwch. Cafwyd hefyd drafodaethau yn y dosbarthiadau ar gyfyngiadau oedran gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

    Read More
  • Diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd / Red, White & Green Day

    Published 24/01/24

    Daeth pawb i’r ysgol yn gwisgo dillad coch, gwyn a gwyrdd. Dechreuwyd y diwrnod gyda gwasanaeth arbennig. Cynhaliwyd weithgareddau yn seiliedig a’r yr Urdd ac hefyd coch, gwyn a gwyrdd. Codwyd £112 tuag at yr Urdd.

    Read More
  • Bl.3 Llangrannog Year 3

    Published 24/01/24

    Treulioddd Bl. 3 ddau ddiwrnod llawn iawn yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Cafwyd amser arbennig yn gwneud pob math o weithgareddau, ac yn cymdeithasu â phlant o ysgolion eraill. Dychwelodd pawb i’r ysgol drannoeth ychydig yn flinedig, ond wedi cael amser bythgofiadwy.

    Read More
  • Fari Lwyd

    Published 24/01/24

    Soniwyd am hanes y Fari Lwyd gyda disgyblion blwddyn 1 a 2 a chynhaliwyd weithgareddau yn y dosbarth yn seiliedig a’r yr hanes.

     

    Read More
  • Traddodiadau'r Flwyddyn Newydd / New Year Traditions

    Published 24/01/24

    Cafodd disgyblion y dosbarth meithrin a derbyn hanes traddodiadau’r flwyddyn newydd ac am greu ‘perllan’ gan Nia Llywelyn. Crewyd ’perllan’ gan y plant yn dilyn y sgwrs.

    Read More
  • Rotari / Rotary

    Published 23/01/24

    Diolch i aelodau Rotari Bae Ceredigion am ofyn i’r plant eu cynorthwyo wrth greu anrhegion Nadolig i drigolion Min y Môr. Cafwyd diwrnod prysur yn coginio cacennau Nadolig a addurno potiau cyn plannu bylbiau. Aeth cynrychiolaeth o’r ysgol i Min y Môr i ddosbarthu’r anrhegion. Gobeithio bydd y cacennau yn flasus.

    Read More