Skip to content ↓

Ysgol Gynradd

Aberaeron

Yn yr adran hon...

Newyddion/ News

Newyddion/ News

May 2018

  • Gwyl Chwaraeon yr Urdd / Urdd Sport Festival

    Published 16/05/18

    Ar ddydd Sadwrn 12fed o Fai bu tîm pêl droed yr ysgol yn cystadlu ym mhencampwriaeth Cymru. Roedd y gobeithion yn uchel ar ôl ennill llynedd. Yn ei grŵp cafwyd gêm cyfartal yn erbyn Llanfair Caerinion ac yna curo Ysgol Bro Allta ag Ysgol Gwauncelyn i ennill y grŵp. Curwyd St Peters yn y chwarteri ac yn Bryncoch yn y rownd gyn-derfynol. Ymlaen i’r rownd derfynol unwaith eto yn erbyn Gwauncelyn. Ar ddiwedd y gêm roedd y sgôr yn gyfartal ac felly roedd yn rhaid mynd i amser euraidd ac er mawr siom, colli fu’r hanes. Llongyfarchiadau mawr i’r bechgyn am ddod yn ail yng Nghymru—Gwych.

    Aelodau’r tîm :- Steffan (capten), Wil, Finlay,     Ethan, Zeké, Rhys, Rhodri, Jack, Krzysztof a Dion.

     

    Ar yr un diwrnod bu 30 o blant yr ysgol yn rhedeg yng nghystadleuaeth trawsgwlad Cymru a gwnaeth pawb eu gorau glas  a perfformio’n wych. Y medalwyr oedd Martha 1af merched bl.5, Seren 3ydd merched bl.6 a Ellis 3ydd bechgyn bl.3.

    Da iawn pawb a fu’n cynorthwyo’r ysgol.

     

    Read More