Skip to content ↓

Ysgol Gynradd

Aberaeron

Yn yr adran hon...

Newyddion/ News

Newyddion/ News

February 2020

  • Arad Goch

    Published 25/02/20

    Cafodd bl. 5 a 6 y cyfle i weld perfformaid newydd gan Arad Goch sef ‘Tu Fewn a Tu Fas’. Ar ôl y perfformiad cynhaliwyd gweithdai i’r plant yn seiliedig ar beth welwyd.

     

    Read More
  • Cogurdd

    Published 25/02/20

    Eleni aeth 12 o ddisgyblion ati i greu Cibab ffrwythau yn rownd yr ysgol o Cogurdd. Llongyfarchiadau i Ela  Mablen ar ddod yn fuddugol ac i Maisie Tuson a Ella Phillips am ddod yn gydradd ail. Diolch i chi gyd am gystadlu a gwneud ymdrech arbennig.

    Llwyddod Ela i ddod yn drydydd yn rownd derfynol y Sir.

     

    Read More
  • Wythnos Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Ddiogel / Safer Internet Use Week

    Published 25/02/20

    Cafodd y Dewiniaid Digidol wythnos brysur yn addysgu eu cyd-ddisgyblion. Cynhaliwyd gwasanaeth i holl ddisgyblion yr ysgol. Aeth y Dewiniaid Digidol o gwmpas y dosbarthiadau yn rhoi gwersi ar

    Derbyn—defnyddio y bee-bots newydd yn y dosbarth

    Blwyddyn 1—creu logo e-ddiogelwch newydd ar JIT

    Blwyddyn 2—Codio e-ddiogelwch

    Blwyddyn 3 a 4—Microbits                  

    Cafodd blwyddyn 5 a 6 wersi ar seibr fwlio, pwysigrwydd o greu cyfrineiriau cryf ac hefyd e-byst sbam.

    Gorffenwyd yr wythnos drwy ymweld â chartref preswyl Min y Môr i ddarparu sesiwn TGCh

     

    Read More
  • Elin o Cyw / Elin from Cyw

    Published 25/02/20

    Fel rhan o thema’r dosbarth meithrin a derbyn, cafwyd ymweliad cyffrous iawn gan Elin, un o gyflwynwyr Cyw. Treuliodd Elin y bore yn canu a dawnsio gyda’r plant i nifer o ganeuon Cyw. Cafwyd hefyd sesiwn stori ac bu’r plant yn mwynhau gofyn cwestiynau iddi.  Aeth Elin nôl gyda llond car o luniau lliwgar.

     

    Read More
  • Disgo Santes Dwynwen / Santes Dwynwen Disco

    Published 25/02/20

    Trefnwyd ddisgo Santes Dwynwen i’r ysgol gyfan gan aelodau’r  Cyngor Ysgol a Siarter Iaith er budd gwaith yr Urdd yng Nghylch Aeron. Gwerthwyd cacennau, bisgedi a ffrwythau yn y disgo ac bu pawb yn danwsio i gerddoriaeth Cymraeg. Hefyd crewyd cardiau Santes Dwynwen gan aelodau’r cynghorau i werthu.

    Diolch i bawb a gyfranodd tuag at y diwrnod.

     

    Read More
  • Cynhadledd Lles / Wellbeing Conference

    Published 25/02/20

    Llongyfarchiadau i Celt a Trystan am gyflwyniad arbennig i benaethiaid y Sir ar ein defnydd o Yoga a 'Speakr' yn yr ysgol i hyrwyddo lles ein disgyblion. Trefnwyd gan Ysgolion Iach y Sir

    Read More