Skip to content ↓

Ysgol Gynradd

Aberaeron

Yn yr adran hon...

Newyddion/ News

Newyddion/ News

May 2022

  • Eisteddfod Rhanbarth yr Urdd / Urdd Area Eisteddfod

    Published 20/05/22

    Llongyfarchiadau mawr i Nanw Griffiths-Jones ar ei buddugoliaeth yn y cystadleuthau unawd bl.2 ac iau, cerdd dant bl.2 ac iau ac hefyd llefaru unigol bl.2 ac iau yn yr eisteddfod. Pob lwc iddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Da iawn hefyd i Olwyn Horsey a Nanw Griffiths-Jones yn y gystadleuaeth Alaw Werin ac hefyd i griw yr Ymgom am eu hymdrechion ar y diwrnod. Aelodau’r Ymgom oedd Francessca Cooper, Anabelle Rogers, Jac Costello a Kai Lloyd.

    Read More
  • Wcrain / Ukrain

    Published 20/05/22

    Daeth pawb i’r ysgol yn gwisgo dillad melyn a glas gan roi cyfraniad tuag at gronfa dyngarol yr Wcrain. Codwyd £294 tuag at yr apêl.

    Read More
  • Siarter Iaith

    Published 20/05/22

    Mae’r aelodau wedi bod yn brysur iawn yn creu cennin pedr yn barod ar gyfer dathlu Dydd Gwyl Dewi. Erbyn hyn maent wedi cael ei dosbarthu o amgylch busnesau’r dref. Edrychwch allan amdanynt yn ffenestri’r busnesau wrth i chi gerdded o amgylch y dref..

    Read More
  • Ffair Wyddoniaeth / Science Fair

    Published 20/05/22

    ddathlu Wythnos Wyddoniaeth aeth blynyddoedd 5 a 6 i Brifysgol Aberyswyth. Cafwyd bore hwylus yn ymweld ag amryw o stondinau a chael y cyfle i arbrofi.

    Read More
  • Eisteddfod Cylch yr Urdd / Urdd Aeron Cluster Eisteddfod

    Published 20/05/22

    Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd rhan yn eisteddfod cylch Aeron yn ddiweddar. Braf oedd gweld cymaint o’r ysgol yn cystadlu. Canlyniadau’r dydd Unawd bl.2 ac iau—1af Nanw Griffiths-Jones, 3ydd Alaw Freeman Llefaru bl.2 ac iau—1af Nanw Griffiths-Jones, 2il Alaw Freeman Unawd bl.5 a 6—Francessca Cooper

    Read More
  • Dydd Gwyl Dewi / St David's Day

    Published 20/05/22

    Braf oedd gweld cymaint o’n disgyblion wedi gwisgo eu dillad traddodiadol Cymreig i’r ysgol. Cynhaliwyd ein gorymdaith Gŵyl Dewi o gwmpas Aberaeron a braf oedd gweld cymaint o bobl allan ar y stryd eleni. Cynhaliwyd amryw o weithgareddau i ddathlu’r diwrnod yn yr ysgol a chafwyd cawl blasus i ginio wedi cael ei goginio gan gogyddion yr ysgol.

    Read More