Croeso cynnes i wefan Ysgol Gynradd Aberaeron.

Rydym yn falch o fod yn ysgol Gymraeg sy’n ganolog i’n cymuned, lle caiff plant eu hannog i ddysgu, tyfu a mwynhau eu hamser yn yr ysgol. Credwn y dylai pob plentyn deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi a’i ysbrydoli i gyflawni’r gorau oll o’i allu.

Mae ein gweledigaeth yn syml. Ein nod yw bod yn galon ein cymuned, yn fan lle mae lle i bawb, ac lle mae pawb yn rhydd i fynegi eu barn. Rydym am i’n plant deimlo eu bod yn perthyn, bod eu llais yn bwysig, a’u bod yn gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol at fywyd ein hysgol.

Rydym yn annog ein disgyblion i weithio’n galed a chwarae’n galed. Rydym am i ddysgu fod yn ddiddorol, yn bleserus ac yn ystyrlon, gan helpu plant i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder y bydd eu hangen arnynt yn y dyfodol. Ar yr un pryd, credwn y dylai’r ysgol fod yn fan lle mae cyfeillgarwch yn ffynnu, llwyddiannau’n cael eu dathlu, ac atgofion hapus yn cael eu creu.

Fel ysgol Gymraeg, rydym yn falch o fod yn Gymry mentrus a balch. Rydym yn dathlu ein hiaith, ein diwylliant a’n treftadaeth, wrth annog ein disgyblion i fod yn uchelgeisiol, chwilfrydig ac yn barod i fanteisio ar gyfleoedd newydd.

Mae ein hethos o fod yn Barod, Parchus a Diogel yn sail i bopeth a wnawn. Drwy gydweithio a dangos gofal ac ystyriaeth tuag at ein gilydd, rydym yn creu amgylchedd lle mae plant yn teimlo’n ddiogel, yn hyderus ac yn barod i ddysgu.

Diolch am gymryd yr amser i ddysgu mwy am ein hysgol. P’un a ydych eisoes yn rhan o gymuned yr ysgol neu’n ystyried Ysgol Gynradd Aberaeron ar gyfer eich plentyn, gobeithiwn y bydd y wefan hon yn rhoi blas i chi o’r cynhesrwydd, y balchder a’r ymdeimlad cryf o berthyn sy’n gwneud ein hysgol yn lle mor arbennig.

Geraint Thomas

Pennaeth Dros Dro

Ein Gweledigaeth

Calon ein Cymuned

Rhydd i Bawn ei Farn

Gweithio'n Galed, Chwarae'n Galed

Cymry Balch a Mentrus

Ma 'na le i bawb yn ein hysgol ni

"Mae’n hwyl i ddysgu yn y Dosbarth" - Henry

"Mae’r athrawon yn hwyl ac yn garedig" - Zoe

"Mae plant ac athrawon yr ysgol yn neis iawn" - Talia

"Mae’n gret cael cymryd rhan mewn llawer o bethau gwahanol" - Emmi

"Mae llawer o le tu fas i gael sbort!" - Bleddyn

"Mae’r staff bob tro yn barod i helpu" - Matthew

Crynodeb o'r Cwricwlwm

Mae ein cwricwlwm wedi'i gyd-lunio drwy ymgysylltu â'r holl randdeiliaid a bydd yn bodloni'r gofynion yn yr dogfen isod

Crynodeb o'r Cwricwlwm

Y 4 Diben

Cyfranwyr mentrus, creadigol

Dinasyddion egwyddorol, gwybodus

Unigolion iach, hyderus

Dysgwr uchelgeisiol, galluog

Canran presenoldeb wythnosol dosbarthiadau

02/02/2026-06/02/2026

%

Meithrin

%

Derbyn

%

Blwyddyn 1

%

Blwyddyn 2

%

Blwyddyn 3

%

Blwyddyn 4

%

Blwyddyn 5

%

Blwyddyn 6

Dolenni

X