Derbyn
Staff

Miss Sian Thomas, B.A.Dd.
(Dosbarth Derbyn, Cyd-arwain Y Celfyddydau Mynegiannol, cefnogi Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a Iechyd a Lles)

Mrs Carys Freeman BSc
CPA – Athrawes heb gymhwyso – dan hyfforddiant

Mr Mathew Fletcher
Cynorthwy-ydd Dosbarth

Miss Cara Hughes
Cynorthwy-ydd dosbarth – prynhawn yn unig
Erbyn hyn, mae’r plant wedi setlo’n hyfryd yn y Dosbarth Derbyn, ynghyd â Miss Thomas, Mr Mathew, a Miss Cara sy’n ymuno â ni yn y prynhawniau.
Ers mis Medi, rydym wedi mwynhau archwilio themâu amrywiol gan gynnwys Penblwyddi, Pobol y Pants o’r Gofod, a’r Hydref. Mae’r plant wedi bod yn frwdfrydig ac yn chwilfrydig wrth ddysgu drwy chwarae a phrofiadau ymarferol.
Rydym wedi cael cyfle i ymweld â choedwig Llanerchaeron ac i gerdded trwy goedwig Panteg, gan sylwi ar y newidiadau wrth i’r tymhorau newid o’r Haf i’r Hydref gan feithrin ymwybyddiaeth o’r byd naturiol.
Bob wythnos, rydym yn parhau i ddilyn cynllun Iechyd a Llês Jigso, gyda Mrs Carys Freeman yn arwain y sesiynau gwerthfawr hyn. Yn ogystal, mae’r plant yn mwynhau’r wers Ymarfer Corff bob Dydd Mawrth.
Rydym hefyd yn falch iawn o groesawu Miss Chelsea, myfyrwraig o Goleg Ceredigion, a fydd yn ymuno â ni bob Dydd Llun a Dydd Mawrth drwy gydol y flwyddyn academaidd