Meithrin

Staff

Dirprwy Benaeth

Miss Iona Davies, B.A.  a T.A.R. (Arweinydd Dysgu Sylfaen, Athrawes Meithrin / CADY / Arwain ar: Iechyd a Lles, cefnogi: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd)

Mrs Carys Freeman (BSc)

Athro heb gymhwyso – dan hyfforddiant

Mrs Jemma Nelson

Cynorthwy-ydd Dosbarth

Miss Cara Hughes

Cynorthwy-ydd Dosbarth

Mae Ysgol Gynradd Aberaeron yn ymfalchio mewn darparu amgylchedd ddysgu gyfeillgar a chreadigol sy’n meithrin a datblygu pob plentyn yn unigol.  Rydym yn cynnig cyfleoedd i’n holl blant dyfu ym mhob agwedd o’u dysgu a’u datblygiad.

Yn y dosbarth Meithrin rydym yn ymdrechu i feithrin chwilfrydedd am y byd o’n cwmpas, hunanhyder, annibyniaeth a synnwyr o berthyn. Mae’r amgylchedd dysgu mewnol ac allanol yn hybu perthnasoedd cadarnhaol, yn cynnig profiadau dysgu amrywiol a chreadigol.

Edrychwn ymlaen at groesawu eich plentyn i’r dosbarth meithrin.

 

Boromi

Wyddoch chi, erbyn i ni gyrraedd ein pumed penblwydd, mae 85% o’n hymennydd wedi cyrraedd ei lawn dwf. Ar sail hyn yr ydym wedi creu partneriaeth gyda Boromi i lawnsio llyfrgell chwarae yn y dosbarth meithrin. Bob dydd Gwener, mae plant y dosbarth yn cymryd eu tro i fynd â bag adre dros y penwythnos. Mae’r bagiau yn llawn offer i lunio gwahanol gweithgareddau ar y thema dychmygu, archwilio, rhannu a dyfeisio. Mae’r lluniau a ranwyd gan rhieni yn dyst o’r mwynhad mae’r plant yn eu cael wrth defnyddio’r bagiau.

Ysgol Goedwig

Yr ydym yn ymweld â Llanerchaeron unwaith y mis ac yn treulio’r bore yn y goedwig.

Mae manteision Ysgol Goedwig yn cynnwys gwell iechyd a lles corfforol a meddyliol, datblygu sgiliau cymdeithasol, datblygiad gwybyddol, ymwybyddiaeth amgylcheddol, annibyniaeth a hyder. Credwn bod y sesiynau hyn yn ychwanegiad gwerthfawr i’n dosbarth, gan gyfoethogi taith ddysgu ein plant.

Ysgol Traeth

Mae’r dosbarth meithrin yn mwynhau sesiynau gweithgaredday traeth wythnosol. Mae’r gweithgareddau yn amrywio yn wythnosol ac yn cynnwys creu cuddfan, chwarae rôl, didoli gwrthrychau, defnyddio synhwyrau a llawer mwy.