Skip to content ↓

Ysgol Gynradd

Aberaeron

Yn yr adran hon...

Newyddion/ News

Newyddion/ News

Page 2

  • Cyngor Ysgol / School Council

    Published 23/01/24

    Rhoddwyd llwyfan i leisiau dyfodol Ceredigion wrth i aelodau Cyngor yr Ysgol a chynghorau ysgolion cynradd clwstwr Aeron ymuno am brynhawn yn y Siambr ym Mhenmorfa. Cafwyd y cyfle i ofyn cwestiynau i Aelodau a Swyddogion y Cyngor a thrafod y posibilrwydd o newid i drefn gwyliau Ysgol newydd. Cafwyd brynhawn ysbrydoledig iawn.

    Read More
  • Sioe Swyn Show

    Published 23/01/24

    Ymwelodd holl blant y Dysgu Sylfaen â Theatr Felinfach i wylio’s sioe Swyn. Roedd y sioe yn seiliedig ar y llyfr ‘Whimsy’ gan Krystal S. Lowe. Taniwyd dychymyg y plant drwy stori a dawns. Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am y grant tuag at costau’r ymweliad.

    Read More
  • Deffibriliwr / Defibrillators

    Published 23/01/24

    Fel rhan o waith blynyddoedd 5 a 6 a’r y galon, aethant am dro o gwmpas Aberaeron yn edrych ar leoliadau deffibriliwr. Daethant o hyd i 8 deffibriliwr o amgylch y dref. Ymwelodd Rhodri a Pauline o Wasanaeth Ambliwlas Cymru i roi sesiwn diffibriliwr i’r plant. Cafodd pawb cyfle i weld sut mae defnyddio diffibriliwr ac hefyd sesiwn ymarferol a’r ailgychwyn y galon. Mwynheuodd pawb cyfle a diolch i Rhodri a Pauline am roi o’u hamser.

    Read More
  • Ffair Aeaf / Winter Fair

    Published 18/01/24

    Teithiodd disgyblion blwyddyn 5 i’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Yn y bore cymerwyd ran yn sesiwn ‘Ein Tir’ lle cafwyd cyfwynaid gan Michael Kennard o’r ‘Compst Club’ ac yna gan Adam Jones o Adam yn yr ardd. Yn y prynhawn cafwyd y cyfle i gerdded o amgylch y sioe yn gweld yr anifeiliaid, gwylio’r cystadlaethau, siôpa a bwyta. Mwynheuodd pawb y diwrnod a dychwelwyd wedi blino’n lân

    Read More
  • Pêl-droed / Football

    Published 18/01/24

    Derbyniodd tîm pêl-droed merched a bechgyn blynyddoedd 5 a 6 yr Ysgol wahoddiad i ymuno ag Ysgol Gynradd Aberteifi mewn prynhawn o hwyl yn chwarae gêmau o bêl-droed. Diolch yn fawr iddynt am y gwahoddiad, fe wnaeth pawb fwynhau.

    Read More
  • Cystadleuaeth Pêl-rwyd Merched / Girls Netball Competition

    Published 18/01/24

    Llongyfarchiadau i dîm pêl-rwyd merched yr Ysgol am ddod yn 2il yng nghystadleuaeth pêl-rwyd merched yr Urdd rownd gogledd Ceredigion. Chwaraewyd yn arbennig o dda a diolch i Miss Davies am eu hyfforddi.

    Read More
  • Celf Blwyddyn 4 / Year 4 Art

    Published 18/01/24

    Fel rhan o brosiect ymchwil Natalie Chapman o Galeri Gwyn a’i thad George Chapman, bu disgyblion blwyddyn 4 yn ymweld â Galeri Gwyn i edrych a’r waith celf Geroge Chapman. Daeth Natalie i’r ysgol i gynnal dau sesiwn celf gyda’r plant lle buont yn creu bathodynnau a collage. Diolch yn fawr iawn am y cyfle

    Read More
  • Blwyddyn 5 a 6 Defibriliwr / Year 5 & 6 Defibrillators

    Published 18/01/24

    Fel rhan o waith blynyddoedd 5 a 6 a’r y galon, aethant am dro o gwmpas Aberaeron yn edrych ar leoliadau deffibriliwr. Daethant o hyd i 8 deffibriliwr o amgylch y dref. Ymwelodd Rhodri a Pauline o Wasanaeth Ambliwlas Cymru i roi sesiwn diffibriliwr i’r plant. Cafodd pawb cyfle i weld sut mae defnyddio diffibriliwr ac hefyd sesiwn ymarferol a’r ailgychwyn y galon. Mwynheuodd pawb cyfle a diolch i Rhodri a Pauline am roi o’u hamser.

    Read More
  • Gwasanaeth y Cadoediad / Armistice Service

    Published 18/01/24

    Cynhaliwyd wasanaeth ysgol gyfan arbennig i gofio’r cadoediad. Diolch i Gareth Jones o’r Lleng Brydeinig am gymryd rhan yn y gwasanaeth.

    Read More
  • Cystadleuaeth Pêl-rwyd Cymysg / Mixed Netball Competition

    Published 16/01/24

    Llongyfarchiadau i dîm pêl-rwyd yr ysgol an ennill rownd gogledd y sir yng nghystadleuaeth pêl-rwyd cymysg yr Urdd. Aethant ymlaen i gystadlu yn y ffeinal yn erbyn ennillwyr rownd y De yng ngwersyll yr Urdd Llangrannog ond yn anffodus colli oedd yr hanes ond fe chwaraewyd yn arbennig o dda.

    Read More
  • Gwyl Chwaraeon Bl.5 a 6 / Year 5 & 6 Sports Festival

    Published 16/01/24

    Diolch yn fawr iawn i Ceredigion Actif am drefnu gŵyl chwaraeon i flynyddoedd 5 a 6. Cafwyd prynhawn llawn hwyl yn cael blas o amrywiaeth o chwaraeon ac hefyd y cyfle i gymdeithasu gyda disgyblion o ysgolion y clwstwr.

    Read More
  • Dangos y Garden Goch i Hiliaeth / Showing the Red Card to Racism

    Published 16/01/24

    I nodi’r diwrnod cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yng ngofal aelodau hŷn Cyngor yr Ysgol. Rhannwyd negeseuon pwysig iawn. Bu’r plant hefyd yn creu posteri yn y dosbarth.

    Read More