Skip to content ↓

Ysgol Gynradd

Aberaeron

Yn yr adran hon...

Newyddion/ News

Newyddion/ News

Page 3

  • Cŵn Tywys / Guide Dogs

    Published 16/01/24

    Fel rhan o waith thema’r dosbarth Derbyn a’r llygaid, crewyd ardal chwarae rôl optegydd yn y dosbarth. I orffen gwahoddwyd cŵn tywys i’r ysgol i ddangos i’r plant y gwaith pwysig y maent yn eu gwneud yn helpu pobl dall. Mwynhaeodd y plant yng nghanol y cŵn.

    Read More
  • Siarter Iaith Ceredigion / Ceredigion Welsh Charter

    Published 16/01/24

    Mae disgyblion blwyddyn 2 wedi bod yn brysur iawn yn creu stori Seren a Sbarc ar y cyd a ysgolion clwster Aeron. Mae’r dosbarth wedi cael cyfarfodydd rhithiol gyda Ysgol Llanarth a Chiliau Parc. Diolch yn fawr iawn i Siarter Iaith Ceredigion am drefnu ac edrychwn ymlaen at weld y stori orffenedig.

    Read More
  • Trawsgwlad Clwstwr / Aeron Cluster Crosscountry

    Published 16/01/24

    Braf oedd cael cynnal cystadleuaeth traws gwlad clwstwr Aeron a’r gaeau’r ysgol. Ymunwyd gan holl ysgolion y clwstwr gyda 278 o blant yn cymryd rhan. Cafodd pob disgybl ym mlwyddyn 3, 4, 5 a 6 y cyfle i gymryd rhan. Da iawn i bawb am ei hymdrech arbennig. Canlyniadau Bechgyn bl.3—1af Rhys, 2il Guto a 3ydd Ollie Merched bl.3—2il Nancy, 3ydd Nel Bechgyn bl.4—1af Griff, 2il Dylan Merched bl.4—2il Mabli Bechyn bl.5—1af Hari, 2il Junior Merched bl.5—1af Elen, 2il Louise, 3ydd Emmi Bechgyn bl.6—1af Harry Merched bl.6— 2il Freyja

    Read More
  • Shwmae Su'mae

    Published 15/01/24

    Ar b’nawn braf o Hydref, cerddodd ambell aelod o bwyllgor y ‘Siarter Iaith’ i’r dre i hyrwyddo diwrnod ‘Shwmae, Su’mae’. Cariodd rai blaciau mawr gyda ‘Dwedwch Shwmae’ wedi ei beintio arnynt tra dosbarthodd eraill sticeri lliwgar gan esbonio pwrpas y diwrnod i’r siopwyr. Cafwyd llawer o sylw gyda phobol leol, gweithwyr, ymwelwyr (rhai o’r Swistir oedd â diddordeb mawr yn ein hiaith) yn ogystal ag un o awduron plant amlycaf Gymru, Dr Elin Meek. Yn cadw cwmni i’r pwyllgor oedd rhai o aelodau’r ‘Dewiniaid Digidol’ oedd yn ffilmio’r sgwrsio a’r hwyl ac aethant ati i olygu’r clipiau gan greu ffilm fer a ddangoswyd yng ngwasanaeth yr Ysgol gyfan y bore trannoeth. Bu’r plant yn gwneud gweithgareddau yn y dosbarth i hybu’r diwrnod.

    Read More
  • Diwrnod T. Llew Jones Day

    Published 15/01/24

    Braf oedd gweld y plant wedi dod i’r ysgol wedi gwisgo i fyny fel môr ladron, sipsi, gweision a morwynion. Cafwyd gwasanaeth arbennig i ddechrau’r diwrnod o dan ofal blwyddyn 3 a chafwyd llu o weithgareddau trawscwricwlaidd yn y dosbarthiadau.

    Read More
  • Diwrnod Ein Swydd Delfrydol / Dream Job Day

    Published 15/01/24

    Braf oedd gweld holl ddisgyblion blwyddyn 2 yr ysgol wedi gwisgo i fyny fel eu swydd delfrydol. Cafwyd amrywiaeth o swyddi e.e plismon, chwaraewr pêl-droed, athrawes, milfeddyg a llawer mwy. Treuliwyd y diwrnod yn cyflwyno eu hun i’r dosbarth ac sôn am pam yr oeddent wedi dewis y swydd.

    Read More
  • Cogurdd

    Published 15/01/24

    Llongyfarchiadau i bawb am eu hymdrechion yn y rownd ysgol o Cogurdd. Roedd y safon yn wych wrth iddynt greu salad. Da iawn i Nanw Griffiths-Jones a ddaeth yn fuddugol a pob lwc iddi yn y rownd rhanbarthol.

    Read More
  • Meithrin yn ymweld a'r llyfrgell / Nursery visiting the library

    Published 15/01/24

    I ddathlu wythnos Llyfrgelloedd Cymru, ymwelodd y dosbarth meithrin a llyfrgell Aberaeron lle cafwyd stori gan Delyth Huws a cyfle i fenthyg llyfrau ar gyfer y dosbarth

    Read More
  • Ffair Iaith / Language Fair

    Published 15/01/24

    Diolch yn fawr iawn i Cardi Iaith am drefnu Ffair Iaith gwerth chweil i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6. Cafodd y disgyblion i gyd gyfleodd arbennig, ac hynny i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg! Cafwyd profiad o ddefnyddio setiau VR a chwarae iwcale

    Read More
  • Bore Coffi Macmillan Coffee Morning

    Published 15/01/24

    Diolch i rieni, ffrindiau a chymdogion a wnaeth gefnogi ein bore coffi Macmillan. Cafwyd cystadleuaeth arbennig o’r ‘Bake Off’ a enillwyd gan Harri Hughes. Diolch i Delyth Jenkins am feirniadu Llwyddwyd i godi £1,100.00 mewn bore. Da iawn pawb.

    Read More
  • Gweithdy Microbits Workshop

    Published 15/01/24

    Cafodd disgyblion blwyddyn 6 weithdy Microbits yng ngofal Tomos Fearne o Brifysgol Aberystwyth. Bu’r plant yn dylunio offer glanio ar gyfer ‘mars rover’ gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu gan ddefnyddio’r microbit i fesur grym y glaniad.

    Read More
  • Diwrnod Elfed Blwyddyn 1 / Year 1 'Elfed' Day

    Published 15/01/24

    Roedd y dosbarth yn llawn o liw wrth i’r plant ddod i’r ysgol wedi gwisgo’n lliwgar. Yn y bore cafodd pawb y cyfle i goginio cacennau, paratoi brechdannau ac addurno bisgedi yn barod a’r gyfer y parti. Cafwyd helfa drysor Elfed lle bu’r plant yn chwilio am eliffantod o gwmpas yr ysgol ac yna eu didoli fesul lliw. Yn y prynhawn cafwyd disgo a gêmau ac yna gwledd i orffen y dydd.

    Read More