Clybiau Ysgol
Clwb Urdd
Cynhelir Clwb yr Urdd ar nos Fawrth o 3.30yp - 4.30yp, i ddisgyblion Bl. 1 - 6. Maen £7 i ymaelodi (£10 ar ol mis Ionawr) am y flwyddyn. Wrth fod yn aelod o'r Urdd bydd eich plentyn yn gally cymryd rhan mewn gweithgareddau wedi ei drefnu gan yr Urdd.
Clwb Tenis
Mi fydd Clwb Tenis yn dechrau ar nos Fercher 13.4.16. Mae Clwb Tenis yn rhedeg o fis Mehefin tan ddiwedd mis Medi i ddisgyblion CA2, (Bl. 3, 4, 5 a 6) ar ôl ysgol pob dydd Mercher, o 3.30 yp - 4.30yp. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Miss Anne Lewis, Athrawes Blwyddyn 4.
Mi fydd y clwb tenis yn hollol ddibynol ar y tywydd. Os ydy'r tywydd yn anffafriol amser cinio mi fydd y clwb yn cael ei ganslo. Mi fydd neges yn cael ei roi ar wefan yr ysgol a Schoop.
Clwb Rhedeg
Cynhelir y clwb rhedeg yn gyson trwy'r flwyddyn yn ystod yr awr ginio ar ddydd Llun, Mawrth a Iau ac mae'n agored i blant o bob oedran. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Mr. Robert Jones, Athro Bl.6.
Clwb Pel-rwyd
Cynhelir Clwb Pel-rwyd, bob nos Lun i blant Bl. 5 a 6. Mi fydd yn dechrau ar nos Lun 8fed o Fedi, 3.30 - 4.00y.p.
Clwb Ffilmiau
Cynhelir Clwb ffilm nos Fercher cyntaf bob mis. Nodir y dyddiadau yn nyddiadur y tymor.
CYLCH MEITHRIN ABERAERON
Mae'r ysgol a darpariaeth gofal tu allan i'r ysgol ar y campws.
Er mwyn sicrhau lle i'ch plentyn dylid cofrestri mewn da bryd.
Mae angen i chi gwblhau ac arwyddo cytundeb a fydd yn parhau am hanner tymor.
Os am ragor o fanylion a wnewch chi gysylltu a'r ysgol.
Clwb Cywion
Dydd Llun - Dydd Gwener o 1.00yp - 3.00yp ar gyfer plant 2 1/2 - 4 oed. Pris y sesiwn £6.50.
Clwb Adar
Dydd Llun - Dydd Gwener o 3.30yp - 5.30yp ar gyfer plant 3 - 11 oed. Pris y sessiwn £6.50.